Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

CELG(4)-28-13 papur 2

 

Dyddiad:                   24  Hydref 2013

           

 

Teitl:                           Papur tystiolaeth ar y Gyllideb Ddrafft:

Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

 

 

 

Cyflwyniad

 

  1. Mae'r papur hwn yn rhoi gwybodaeth ariannol gefndir i'r Pwyllgor am fy nghynlluniau gwariant fel y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, fel y'u hamlinellir yn y Gyllideb Ddrafft.

 

  1. Mae Atodiad A yn rhestru cyfanswm ffigurau'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer Diwylliant a Chwaraeon fesul Cam Gweithredu a fesul Llinell Wariant o fewn pob Cam Gweithredu yn y Gyllideb. Mae'r ffigurau hyn yn cynnwys y cyllidebau ar gyfer y Tirlun a Hamdden Awyr Agored, sy'n dod o dan gylch gorchwyl Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd. Fel cyfanswm, mae'r ffigurau'n dangos cyllidebau refeniw sydd bron yn arian parod yn gostwng yn erbyn y cynlluniau dangosol blaenorol - byddant yn gostwng 3.6% yn 2014-15 ac yn gostwng 1.4% yn rhagor yn 2015-16, sy'n ostyngiad o 4.8% i gyd. Mae rhagor o fanylion isod am symudiadau mewn cyllidebau refeniw a chyllidebau cyfalaf.

 

  1. Mae'r Pwyllgor wedi gofyn am wybodaeth am faterion cyllidebol penodol fel yr amlinellwyd yn yr Atodiad i'r llythyr a anfonwyd i wahodd y Gweinidog i'r sesiwn hon o'r Pwyllgor. Mae ymatebion wedi'u cynnwys yn y papur tystiolaeth hwn.

 

Cefndir a Chrynodeb

 

  1. Gellir crynhoi ffigurau'r gyllideb ddrafft ar gyfer Prif Grŵp Gwariant (MEG) Diwylliant a Chwaraeon sy'n dod o dan gylch gorchwyl y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol fel a ganlyn. Nid yw'r crynodeb hwn yn cynnwys ffigurau'r Maes Rhaglen Wariant (SPA) ar gyfer y Tirlun a Hamdden Awyr Agored:

 

 

Maes Rhaglen Wariant

Cyllideb

Atodol

2013-14

£’000

 

Cyllideb

Ddrafft

2014-15

£’000

 

Cynlluniau

Dangosol

2015-16

£’000

Refeniw:

 

 

 

Celfyddydau

34,758

33,408

33,158

Amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd

37,578

37,045

36,695

Chwaraeon a gweithgarwch corfforol

24,853

23,739

23,474

Y Cyfryngau a Chyhoeddi

3,926

3,726

3,626

Yr amgylchedd hanesyddol

11,641

11,481

11,436

CYFANSWM Y REFENIW

112,756

109,399

108,389

 

 

 

 

% y gostyngiad mewn refeniw

 

3.0%

3.9%

 

 

 

 

Cyfalaf:

 

 

 

Celfyddydau

355

355

355

Amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd

5,223

7,343

4,243

Chwaraeon a gweithgarwch corfforol

345

345

5,345

Y Cyfryngau a Chyhoeddi

25

25

25

Yr amgylchedd hanesyddol

5,331

5,031

5,031

CYFANSWM Y CYFALAF

11,279

13,099

14,999

 

 

 

 

CYFANSWM CYLLIDEB DEL

124,035

122,498

123,388

 

 

 

 

Gwariant a Reolir yn Flynyddol (Darpariaethau pensiwn)

2,740

2,740

3,013

 

 

 

 

CYFANSWM Y CYLLIDEBAU O DAN GYLCH GORCHWYL Y PWYLLGOR HWN

126,775

125,238

126,401

 

 

  1. Mae'r tabl hwn yn dangos bod y cyllidebau refeniw ar gyfer llinellau'r gyllideb sy'n dod o dan gylch gorchwyl y Pwyllgor hwn wedi gostwng 3.0% yn 2014-15 a 3.9% yn 2015-16 - o gymharu â ffigurau'r Gyllideb Atodol ar gyfer 2013-14. Fodd bynnag, mae hyn yn cuddio'r ffaith bod ffigurau 2013-14 yn cynnwys £685k ar gyfer Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Ar gyfer 2014-15 a 2015-16, mae cyllideb yr Ardd Fotaneg Genedlaethol wedi cael ei symud i SPA y Tirlun a Hamdden Awyr Agored, gan ei fod yn cyd-fynd yn well â'r rhaglenni o dan y SPA hwnnw, sy'n ariannu'r Parciau Cenedlaethol a'r cyllidebau ar gyfer mynediad i gefn gwlad a'r arfordir. Os byddwn yn newid hyn - er mwyn sicrhau ein bod yn cymharu tebyg â'i debyg - gwir ganran y gostyngiadau yn y cyllidebau refeniw a ddangosir uchod yw 2.4% ar gyfer 2014-15 a 3.3% ar gyfer 2015-16.

 

Blaenoriaethau'r Gyllideb

 

6.    Mae'r portffolio Diwylliant a Chwaraeon yn gwbl ganolog i nod Llywodraeth Cymru i gyfoethogi bywydau unigolion a chymunedau drwy ein diwylliant, ein tirlun arbennig, ein treftadaeth a chwaraeon drwy ei gwneud yn bosibl i fwy o bobl eu mwynhau.  Mae'r portffolio hefyd yn cyfrannu at swyddi a thwf, gan helpu i wella iechyd a chanlyniadau addysgol plant, pobl ifanc a theuluoedd sy'n byw mewn tlodi a chreu ardaloedd cynaliadwy i bobl.

 

7.    Mae datblygu cynaliadwy yn ganolog i bolisïau Diwylliant a Chwaraeon, gan gydbwyso anghenion byrdymor dybryd a buddiannau hirdymor pobl Cymru.  Er enghraifft, mae cynyddu'r niferoedd sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon ac sy'n gwneud ymarfer corff yn rhan annatod a phwysig o'n hymgyrch fel Llywodraeth i godi lefelau gweithgarwch corfforol yng Nghymru a gwella iechyd a lles y genedl.

 

8.    Wrth lunio cynigion y Gyllideb, canolbwyntiwyd ar gyflawni'r blaenoriaethau canlynol:

 

·         cynyddu gwerthfawrogiad o ddiwylliant a threftadaeth ac annog pobl i ymwneud â diwylliant a threftadaeth, er mwyn ategu'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi, ac yn enwedig ymhlith pobl ifanc;

·         cryfhau cyfraniad y portffolio i'r economi;

·         cynyddu'r nifer sy'n gwneud ymarfer corff er mwyn gwella iechyd.

 

 

Newidiadau i'r Gyllideb - Refeniw

 

9.            O gymharu â chynlluniau dangosol ar gyfer 2014-15 a 2015-16 a gyhoeddwyd yng Nghyllideb Derfynol 2013-14, mae'r prif newidiadau i'r gyllideb, sy'n dangos y gostyngiadau i gyllidebau'r cyrff a ariennir gan y portffolio Diwylliant a Chwaraeon, fel a ganlyn: 

 

 

 

Sefydliad

Cyllideb

Atodol

2013-14

£’000

 

Cyllideb

Ddrafft

2014-15

£’000

 

Cynlluniau

Dangosol

2015-16

£’000

Refeniw (Bron yn Arian Parod):

 

 

 

Cyngor Celfyddydau Cymru

33,671

32,621

32,371

-       Canran y gostyngiad o gymharu â 2013-14

 

3.1%

3.9%

 

 

 

 

Amgueddfa Genedlaethol  Cymru

22,436

22,236

22,136

-       Canran y gostyngiad o gymharu â 2013-14

 

0.9%

1.3%

 

 

 

 

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

10,121

9,921

9,721

-       Canran y gostyngiad o gymharu â 2013-14

 

2.0%

4.0%

 

 

 

 

Chwaraeon Cymru

23,743

22,883

22,618

-       Canran y gostyngiad o gymharu â 2013-14

 

3.6%

4.7%

 

 

 

 

Cyngor Llyfrau Cymru

3,926

3,726

3,626

-       Canran y gostyngiad o gymharu â 2013-14

 

5.1%

7.6%

 

 

 

 

Cadw (heblaw am staff Cadw) / Comisiwn Brenhinol Henebion   Cymru

3,707

3,647

3,602

-       Canran y gostyngiad o gymharu â 2013-14

 

1.6%

2.8%

 

 

Newidiadau i'r Gyllideb - Cyfalaf

 

  1. Gwnaed y dyraniadau ychwanegol canlynol i gyllidebau cyfalaf:

 

 

Maes Rhaglen Wariant

 

Cyllideb

Ddrafft

2014-15

£’000

 

Cynlluniau

Dangosol

2015-16

£’000

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

3,300

200

Chwaraeon a gweithgarwch corfforol

-        

5,000

 

 

 

Cyfanswm

3,300

5,000

 

  1. Bydd y dyraniad ychwanegol o £3.5m dros y ddwy flynedd i'r Llyfrgell Genedlaethol yn ei galluogi i wneud gwaith atgyweirio hanfodol yn dilyn y difrod tân, a bwrw ymlaen â gwaith i ddatblygu gwasanaethau archifo.

 

  1. Yn unol â'r flaenoriaeth i gynyddu'r niferoedd sy'n gwneud ymarfer corff er mwyn gwella iechyd, caiff £5m ei ddyrannu yn 2015-16 i Gynllun Benthyg Cyfalaf ar gyfer Chwaraeon a Chyfleusterau Hamdden.  Bydd y cynllun peilot newydd yn hwyluso dull o fuddsoddi cyfalaf mewn modd strategol ac integredig sy'n canolbwyntio ar fuddsoddi i arbed.  Nod y cynllun yw gwella effeithlonrwydd a'r ffordd y caiff asedau a chyfleusterau chwaraeon a hamdden eu rheoli, cynyddu'r niferoedd sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon ac sy'n gwneud ymarfer corff a chyfrannu at ganlyniadau iechyd.

 

Gwariant a Reolir yn Flynyddol

 

  1. Mae'r cyllidebau Gwariant a Reolir yn Flynyddol yn cynnwys darpariaeth ar gyfer unrhyw daliadau pensiwn y gallai fod angen eu gwneud ar gyfer cynlluniau pensiwn Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. £2.740m yw'r cyfanswm ar gyfer 2013-14. Cyllideb nad yw'n arian parod yw hon.

 

 

YMATEBION I'R WYBODAETH BENODOL Y GOFYNNODD Y PWYLLGOR AMDANI

 

  1. Mae'r ymatebion i'r wybodaeth benodol y gofynnodd y Pwyllgor amdani fel a ganlyn:

 

Adroddiad ar gyllideb y flwyddyn ddiwethaf

 

  1. Copi o Linellau Gwariant Unigol y Gyllideb ar gyfer y portffolio - ymdriniwyd â hyn eisoes ym mharagraff 2 uchod, ac atodir copi yn Atodiad A.

 

Ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu

 

  1. Gellir cyflawni holl ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu gan ddefnyddio'r gyllideb sydd ar gael. Rhaid blaenoriaethu'r gwaith yn unol â'r cyllidebau cyffredinol. Yn amlwg, bydd pwysau ar gyllidebau - yn enwedig cyllidebau cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am gyflawni rhai o'r ymrwymiadau. Fodd bynnag, yn ystod trafodaethau yr wyf wedi'u cael hyd yma a thrafodaethau y mae fy swyddogion wedi'u cael, pwysleisiwyd bod cyflawni ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu yn flaenoriaeth. Nodir hyn yn glir yn y Llythyrau Cylch Gwaith y byddaf yn eu hanfon at y cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru.

 

  1. Rydym yn monitro i ba raddau y cyflawnir ymrwymiadau fy mhortffolio a'u canlyniadau cysylltiedig drwy gydol y flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys fy nghyfarfodydd â Chadeiryddion a Phrif Weithredwyr y cyrff a noddir, a'r trafodaethau yn y cyfarfodydd Monitro Chwarterol a gynhelir gyda swyddogion. Yna cofnodir yr hyn a gyflawnwyd yn Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Lywodraethu. Cynhelir gwerthusiadau o bryd i'w gilydd ac fel y bo'n briodol er mwyn sicrhau bod y canlyniadau dymunol yn cael eu cyflawni a bod y buddsoddiadau’n darparu gwerth am arian.

 

Polisïau allweddol

 

Sut mae'r camau i ad-drefnu'r adran o dan bortffolio un Gweinidog wedi effeithio ar eich dyraniad cyllidebol eleni

 

  1. Roedd elfennau'r portffolio Diwylliant a Chwaraeon sy'n dod o dan gylch gwaith y Pwyllgor hwn yn rhan o'r portffolio Tai, Adfywio a Threftadaeth yn flaenorol. Gwelwyd rhywfaint o ostyngiad yn y gyllideb refeniw ar gyfer 2014-15 - 3.6% ar draws y MEG cyfan, ond 2.4% ar draws y meysydd sy'n dod o dan gylch gwaith y Pwyllgor hwn - gweler paragraff 5 uchod. Bu'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd oherwydd y sefyllfa gyllidebol gyffredinol.

 

  1. Gwnaed dyraniadau cyfalaf ychwanegol fel y nodwyd uchod.

 

Pa drafodaethau rydych wedi'u cael â sefydliadau a rhanddeiliaid sy'n gyfrifol am weithredu polisïau yn eich portffolio cyn penderfynu ar ddyraniadau'r gyllideb

 

  1. Rwy'n cyfarfod â'r sefydliadau a ariennir gennyf yn rheolaidd i drafod y cynnydd y maent yn ei wneud gyda'u gwaith a'r prif broblemau sy'n eu hwynebu, gan gynnwys eu sefyllfa ariannol. Hefyd, mae fy swyddogion wedi cynnal trafodaethau manwl â hwy am ba effaith y byddai gostyngiadau i'r gyllideb yn ei chael ar sail gwahanol senarios. Ystyriais y wybodaeth hon yn ofalus wrth benderfynu ar ddyraniadau'r Gyllideb Ddrafft.

 

Manylion unrhyw arian loteri ychwanegol ar gyfer chwaraeon a'r celfyddydau eleni ar ôl y Gemau Olympaidd

 

  1. Mae'r tabl canlynol yn crynhoi cyfanswm yr arian loteri ar gyfer chwaraeon a'r celfyddydau yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, yn ogystal â ffigurau rhagamcanol i'r dyfodol:

 

 

Chwaraeon

£’000

Celfyddydau

£’000

2010-11

9,680

10,841

2011-12

11,646

13,192

2012-13

16,533

18,450

2013-14

16,875

18,750

2014-15

16,911

18,790

2015-16

16,974

18,860

2016-17

17,037

18,930

2017-18

17,100

19,000

 

 

  1. Mae'r ffigurau'n dangos bod arian y loteri wedi cynyddu'n sylweddol ar ôl i'r Gemau Olympaidd a'r gwaith paratoi ar eu cyfer ddod i ben. Ar ôl 2011-12, gwelwyd cynnydd sylweddol o tua 40%, ac yna gwelwyd cynnydd pellach yn unol â chwyddiant fwy neu lai.

 

Sut mae'r angen i weithredu'r Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol a'r gwaith ar strwythur Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn y dyfodol wedi effeithio ar y dyraniadau ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol

 

  1. Mae'r dyraniad cyllideb refeniw ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol wedi gostwng £60k yn 2014-15, ac wedi gostwng £45k arall yn 2015-16. Mae'r gostyngiadau hyn yn fach iawn am y rhesymau canlynol:

 

·         Mae'r gyllideb yn ariannu costau staff Cadw o £7,425k. Diogelwyd yr elfen hon o'r gyllideb oherwydd mai gwaith rheng flaen ydyw;

 

·         Y gwaith sy'n cael ei wneud ar y Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol a strwythur Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn y dyfodol;

 

·         Y cyfraniad y mae Cadw yn ei wneud i dwristiaeth, a'r mentrau sydd ar waith ganddo i wella mynediad i blant o gefndiroedd difreintiedig.

 

Sut mae'r angen parhaus i fynd i'r afael â'r elfennau sy'n atal pobl rhag cymryd rhan yn y celfyddydau a mynediad i hyrwyddo'r celfyddydau mewn ysgolion wedi effeithio ar ddyraniadau'r gyllideb ar gyfer y celfyddydau

 

  1. Fel y nodais uchod, bu'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd ynghylch dyraniadau'r gyllideb. Cyfyngwyd y gostyngiad yng nghyllideb Cyngor Celfyddydau Cymru yn 2014-15 i 3.1% er mwyn adlewyrchu'r gwaith y bydd yn ei wneud i weithredu adolygiad Dai Smith o'r celfyddydau mewn addysg a rôl y celfyddydau o ran trechu tlodi.

 

Pa effaith y mae'r camau i ailstrwythuro Amgueddfa Cymru a'r tân yn y Llyfrgell Genedlaethol wedi'i chael ar ddyraniadau'r gyllideb

 

  1. Rwyf wedi rhoi arian ychwanegol i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn 2012-13 ac yn y flwyddyn gyfredol, 2013-14, er mwyn ei helpu i ailstrwythuro. Yn ogystal, mae cyllideb Amgueddfa Genedlaethol Cymru wedi'i diogelu i raddau helaeth ar gyfer 2014-15, gan inni gyfyngu'r gostyngiad i 0.9% o gofio'r cyfraniad sylweddol y mae'n ei wneud i'r economi drwy ddenu twristiaid i Gymru, a'i gwaith i helpu i drechu tlodi plant.

 

  1. Rwy'n darparu £625k yn ychwanegol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn ystod y flwyddyn gyfredol i ariannu gwaith adfer brys sydd ei angen yn dilyn y tân, ac mae'r swm hwnnw'n ychwanegol at ei dyraniad cyfalaf cynnal a chadw arferol. Rwyf hefyd yn dyrannu £3.5m yn ychwanegol iddi dros y ddwy flynedd nesaf (£3.3m yn 2014-15 a £0.3m yn 2015-16) a fydd yn ei galluogi i wneud atgyweiriadau hanfodol eraill yn dilyn y difrod tân a bwrw ymlaen â gwaith i ddatblygu gwasanaethau archifo. Hefyd, y flwyddyn nesaf, rwy'n rhoi £375k yn ychwanegol i'r Llyfrgell ar gyfer cyfalaf cynnal a chadw er mwyn ei helpu i wneud gwaith cynnal a chadw parhaus hanfodol.

 

 

Sut y caiff arian ei ddarparu i weithredu'r Strategaeth Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli a Strategaeth Amgueddfeydd Cymru

 

  1. Rwy'n diogelu'r arian a ddyrannwyd er mwyn helpu i weithredu'r strategaethau llyfrgelloedd ac amgueddfeydd yn 2014-15. Mae'r strategaethau yn cyflawni blaenoriaethau'r Rhaglen Lywodraethu, gan gynnwys trechu tlodi, hyrwyddo llythrennedd a hybu iechyd a lles. Bydd gan lyfrgelloedd cyhoeddus rôl bwysig i'w chwarae o ran darparu mynediad â chymorth am ddim i'r nifer gynyddol o wasanaethau cyhoeddus a ddarperir ar-lein yn bennaf, fel Paru Swyddi a Chredyd Cynhwysol. Mae ein rhwydwaith o amgueddfeydd lleol, ynghyd ag Amgueddfa Cymru, yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i hyrwyddo twristiaeth ddiwylliannol yng Nghymru.

 

Blaenoriaethau ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru a sut y caiff y rhain eu hadlewyrchu yn nyraniadau'r gyllideb.

 

  1. Caiff arian Llywodraeth Cymru i'r diwydiant cyhoeddi ei sianelu drwy Gyngor Llyfrau Cymru. Mae hyn yn cynnwys arian ar gyfer gwasanaeth newyddion ar-lein dyddiol yn Gymraeg yn ogystal â chyhoeddiadau newyddion a materion cyfoes cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys Golwg, Y Cymro a Barn.

 

  1. Bydd cyllideb Cyngor Llyfrau Cymru yn gostwng £200k yn 2014-15 ac yn gostwng £100k arall yn 2015-16. Mae'r arian a ddyrennir i'r Cyngor Llyfrau hefyd yn cefnogi cylchgronau Saesneg sy'n ymdrin â sawl maes, gan gynnwys materion cyfoes/diwylliant. Y bwriad yw y caiff y ddarpariaeth ar gyfer elfen y cyfryngau o gyllideb Cyngor Llyfrau Cymru ei diogelu i raddau helaeth. Hefyd, mae rhai o ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu mewn perthynas â'r cyfryngau yn ymwneud ag adnoddau staffio (a ariennir drwy'r MEG Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu) yn hytrach nag arian rhaglenni o'r MEG Diwylliant a Chwaraeon.

 

Sut mae'r angen parhaus i gynyddu'r niferoedd sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden egnïol yng Nghymru wedi cael ei adlewyrchu yn nyraniadau'r gyllideb

 

  1. Unwaith eto, bu'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd ynghylch dyraniadau'r gyllideb.  Mae dyraniad cyllideb refeniw Chwaraeon Cymru ar gyfer 2014-15 wedi gostwng 3.6%. Byddaf yn cyfarfod â Chwaraeon Cymru i drafod sut y gallwn flaenoriaethu'r rhaglenni a weithredir ganddo, er mwyn cyflawni ein hamcan o gynyddu'r niferoedd sy'n cymryd rhan a gwireddu'r manteision a ddaw yn sgil hynny o ran lles ac iechyd gwell. Mae'r gyllideb o £3.546m ar gyfer Nofio am Ddim wedi cael ei diogelu.

 

  1. Ar gyfer 2015-16, yn unol â'r flaenoriaeth i gynyddu'r niferoedd sy'n gwneud ymarfer corff er mwyn gwella iechyd, caiff £5m ei ddyrannu i Gynllun Benthyg Cyfalaf ar gyfer Chwaraeon a Chyfleusterau Hamdden.   Bydd y cynllun peilot newydd yn hwyluso dull o fuddsoddi cyfalaf mewn modd strategol ac integredig sy'n canolbwyntio ar fuddsoddi i arbed.  Nod y cynllun yw gwella effeithlonrwydd a'r ffordd y caiff asedau a chyfleusterau chwaraeon a hamdden eu rheoli, cynyddu'r niferoedd sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon ac sy'n gwneud ymarfer corff a chyfrannu at ganlyniadau iechyd.

 

 

Darpariaeth ar gyfer deddfwriaeth

 

Gwybodaeth am ba mor debygol yw hi y bydd unrhyw ddeddfwriaeth Gymreig sydd wedi cael ei phasio, sy'n cael ei phasio ar hyn o bryd, neu sydd wedi'i chynllunio yn y rhaglen ddeddfwriaethol, yn cael unrhyw effaith uniongyrchol neu anuniongyrchol ar yr agweddau yn eich portffolio yn ystod blwyddyn ariannol 2014-15

 

  1. Mae un Bil yn y rhaglen ddeddfwriaethol o fewn y portffolio Diwylliant a Chwaraeon sy'n dod o dan gylch gwaith y Pwyllgor hwn, sef y Bil Treftadaeth. Diben y Bil hwn yw cyflawni ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu i ddatblygu fframwaith cyfreithiol a fydd yn gwella'r modd y caiff amgylchedd hanesyddol Cymru ei reoli a'i ddiogelu.  Os caiff ei basio, y Bil hwn fydd y ddeddfwriaeth dreftadaeth gyntaf i Gymru.  Lansiwyd ymgynghoriad Papur Gwyn ym mis Gorffennaf a daeth i ben ar 11 Hydref.

 

  1. Lluniwyd asesiad cychwynnol o oblygiadau ariannol y Bil. Mae'r rhan fwyaf o'r cynigion yn ddewisol neu nid oes iddynt unrhyw oblygiadau ariannol yn ychwanegol at y rhai y gellir eu bodloni gan ddefnyddio'r cyllidebau adrannol cyfredol, gan gynnwys staffio.  Unwaith y caiff cynigion terfynol y Bil eu llunio, cynhelir asesiad arall o'r goblygiadau ariannol. Ni fydd unrhyw effaith uniongyrchol nac anuniongyrchol ar y gyllideb yn ystod blwyddyn ariannol 2014-15.

 

Gwybodaeth am effaith unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth y DU yn y portffolio ar y gyllideb

 

  1. Ni wyddom am unrhyw effaith sylweddol a gaiff unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth y DU yn y portffolio ar y gyllideb.